A Generation of Emerging Poets

Mererid Puw Davies

Mererid Puw Davies lectures in German at University College London. Her creative work has recently brought her to Estonia and Slovenia.


Y Gylfinir

'dere mas', meddai'r dieithryn,
'fe glywi di'r gylfinir' -
a minnau, heb wybod hyd yn oed
sut beth yn y byd yw gylfinir, heb sôn
sut datseinia'i swn
ysol tros y topiau oer,
yn derbyn. croesi rhiniog
y bwthyn melyn fel lamp
i'r awr amwys ddaw cyn y nos
yn arlliw lwyd i gyd
i wrando am gylfinir
ledled llwyfannau llydain y moelydd -

a bydd dim byd byth fel bu o'r blaen
wedi sefyll ar fin y nos
heb syniad am ei liw na'i lun
a chlywed
y gylfinir, gair

mor iasol estron ei gywair llai
â'r gri ar wasgar tros yr esgair las.










© University of Wales, Aberystwyth 2002-2009       home  |  e-mail us  |  back to top
site by CHL