Trois hommes, une tradition

Bobi Jones

Bobi Jones, né en 1929 à Cardiff, ville où il passa son enfance, est professeur émérite à l'université du Pays de Galles à Aberystwyth. Critique littéraire renommé, il est également l'auteur d'une oeuvre poétique prolifique, notamment du poème Hunllef Arthur (Le cauchemar d'Arthur), remarquable par sa modernité et sa dimension épique,





'Pourquoi écris-je en gallois?'

Lisez cette entretien avec Bobi Jones en langue anglaise.




Cacynen

I sisial sen yn erbyn popeth
y cylcha hi'r waliau. Llusga ager sarff

o'r awyr swrth. Mae wrth ei bodd yn lladd
awyrgylch. Disgyn injin ei godidowgrwydd

fel dyfyniad o boer neidr o dan lenni.
Hi yw crafanc y ffenest, ffenest, ffenest.

Yn brif lodes dywyll y pryfed, yn ei mwclis
ambr yr heua anfoes ar oleuni.

Does dim un man i deigres fynd fan hyn ond i mewn
a si ei danadl. Dyna hi'n gaeedig

chwil yma wrth chwilio acw; heb ond
chwant, meddw yw ei methu maith.

Dim mel, dim dwli, dim ond
ffiws yw yn tanio ymysg sosbenni

ar hyd gwifren teleffon haul
gwydr, yn daflegryn o sgrech rew

drwy dwnnel tranc, a'i llygaid
yn saethu chwarel pob dwrn o ffenest, ffenest.

Wrth rowndio'r gegin a'i larwm galarus,
for-leidr y gwenyn, metel-tawdd,

all hi byth ddweud mor anhapus yw hi.
Paentia'r nenfwd a'i braw. Un, dwy, tair,


pedair wal. Baban wedi cydio mewn nodyn
ac yn hwylio lefain adref.

Ynghau o fewn hud ei ehedeg ei hun,
mileinig yw am oleuni. Ac amheua,

bwria'i hamheuaeth ar wydr. Fel llu
melltithia'r gwynder na all ei gyrraedd.

Ffwrn yw'i chot gen ar ganol haf.
Yn ei llwnc undonog dan, try'n

bentewyn mewnblyg mewn mwstard
mwys. Mae'i bwled yn bythol refrio

ar donfedd gaethwag...Diflanna
wrth lanio, yn goelcerth dalfyredig,

yn y distaw paid; ni fodola yn yr aros,
ac yn anghred yr aeth wedi soddi mewn saeth.

Paid. Ble mae? Ust! Acw erys eco'i rheg
yn ddidrugaredd ddwys ar bwys y switsh.

Ai ceisio diffodd byd y mae?........
Ie, yn ei hoen cyfyd -
dacw'i ffroen yn llofruddio gwagle drachefn....












© University of Wales, Aberystwyth 2002-2009       home  |  e-mail us  |  back to top
site by CHL