La nouvelle génération s'éveille

Elin ap Hywel

Elin ap Hywel, poétesse, traductrice et directrice d'édition, écrit en gallois comme en anglais. Ses oeuvres ont été fréquemment publiées dans des anthologies et ont été traduites en tchèque, en anglais, en allemand, en italien et en japonais. Elle est l'auteur de Pethau Brau (Y Lolfa, 1982) ainsi que deux recueils de nouvellles féministes galloises en langue anglaise, publiées chez Honno, Luminous and Forlorn (Lumière et désespoir,1994), et Power (Pouvoir, 1998). Son dernier ouvrage, Ffinau/Borders (Frontières, Gomer 2002), un recueil de poèmes originaux et de traductions, est le fruit d'une collaboration avec le poète Grahame Davies.



Duwiesau

Duwiesau Cymru -
duwiesau'r banadl, y deri, blodau'r erwain,
yr esgyrn sychion, ewinedd yn y blew -

nid y chi oedd yn camu trwy 'mreuddwydion
flynyddoedd yn ol yn fy ngwely hogan-ysgol,

ond man-dduwiesau llyweth y mynd a'r dod
a gwafrai'n anwadal drwy chwedlau Rhufain a Groeg
yn enfys am eiliad, ac yna yn nant neu'n llwyn,
wastad rhwng dau feddwl a dwy ffurf,
yn plesio rhyw ddyn, yn cuddio rhag rhyw dduw,
yn newid eu henwau a'u hunain fel newid lipstic:
Echo, Eos, Psyche - merched chweched dosbarth
yn chwerthin tu ol i'w gwalltiau newydd-eu-golchi.

Dod i ddeall eich ffyrdd chi wnes i
yn araf, anfodlon, yn gyndyn fel boddi cathod,
gyda phob clais a welais, pob cusan wag,
pob modrwy yng nghledr llaw, dod i ddeall dicter -
sawru'r gwaed ar y dwylo a gwres y ty haearn,
clywed pengoglau plant yn glonc yn y gwynt.

Freninesau'r gwyllt, y lloerig, y pobl o'u coeau,
y distawrwydd anghynnes, yr anesmwythyd mawr
- ry'ch chi'n cadw cwmni heno yn nad y newyddion,
yn stelco drwy'r stafell yn eich gynau sidan carpiog.
Mae blinder y blynyddoedd yn friw dan eich llygaid
a'ch crwyn yn afalau crychion;

ond mae'r fellten a'r daran yn drydan yng nghwmwl eich gwalltiau, barclodiad rhyw gawres yn gengl o amgylch eich boliau a meillion eich dicter gwyn yn dynn wrth eich sodlau.
Ynysoedd gwyr cedyrn sy'n dymchwel wrth odre eich peisiau.













© University of Wales, Aberystwyth 2002-2009       home  |  e-mail us  |  back to top
site by CHL